Taith lansio albwm ‘Mynd â’r tŷ am dro’, Cowbois Rhos Botwnnog. Mae Cowbois Rhos Botwnnog yn mynd ar daith i ddathlu cyhoeddiad eu chweched record hir. Dyma eu taith gyntaf ers 2020, a byddan nhw’n perfformio deunydd newydd sbon yn ogystal â’r hen ffefrynnau, caneuon gan artistiaid eraill, a chaneuon gwerin. Gyda band mawr a gwerth deunaw mlynedd o ganeuon, dewch i’w gweld nhw ar eu gorau.

Gwener, 22 Mawrth 2024
Cowbois Rhos Botwnnog
Theatr Derek Williams Y Bala Hyd at 22 Mawrth 2024, 23:30 (£14)