Croeso 2024: Noson Lansio Cân i Gymru @ Arena Abertawe
Rydym wrth ein boddau i gyhoeddi noson lansio arbennig yn Arena Abertawe ar nos Iau’r 29ain o Chwefror ar gyfer Cân i Gymru 2024 a Gŵyl Croeso Abertawe, dathliadau Dydd Gŵyl Dewi Cyngor Abertawe.
Dewch draw rhwng 18:00-20:00 i fwynhau’r gorau o gerddoriaeth gyfoes Gymraeg ac i ddysgu mwy am yr holl ddigwyddiadau gwych sy’n cael eu cynnal ar draws Abertawe dros y penwythnos.