Rhyddhau albwm Rhi Jorj
Mae Rhi Jorj wedi rhyddhau ei halbwm newydd ers dydd Gwener diwethaf, 7 Tachwedd. ‘Ysgafn’ ydy enw’r record hir newydd ganddi sydd allan yn ddigidol yn unig am y tro, ond fydd ar gael ar ffurf CD hefyd ar 22 Tachwedd.
Mae Rhi Jorj wedi rhyddhau ei halbwm newydd ers dydd Gwener diwethaf, 7 Tachwedd. ‘Ysgafn’ ydy enw’r record hir newydd ganddi sydd allan yn ddigidol yn unig am y tro, ond fydd ar gael ar ffurf CD hefyd ar 22 Tachwedd.
A hithau ar fin rhoi genedigaeth i’w plentyn cyntaf, mae Tara Bandito wedi rhyddhau’r sengl newydd, ‘Ufudd’.
Mae EP cyntaf yr artist electronig, Osgled, wedi’i ryddhau ar label BWGiBWGAN. Tes yr Haul ydy enw’r record fer newydd.
Mae’r canwr-gyfansoddwr o Abertwae, Geraint Rhys, wedi rhyddhau ei sengl Saesneg newydd. ‘I Belong to You’ ydy enw’r cynnyrch cyntaf ers dwy flynedd gan Geraint Rhys ar ôl iddo gymryd cyfnod o saib.
Mae’r artist o ardal Y Bala, Melda Lois, wedi rhyddhau ei sengl ddwbl newydd. ‘Am Eiliad’ / O’r Ddwy Lan’ ydy enw’r traciau newydd ganddi sydd allan ar label recordiau I KA CHING.
Mae’r cerddor Tom Macaulay wedi cyd-weithio â’r cynhyrchydd Pen Dub ar fersiwn newydd o un o’i senglau.
Mae Malan, yr artist jazz-pop dalentog wedi rhyddhau ei sengl Gymraeg ddiweddaraf. ‘Dim Syniad’ ydy enw’r trac newydd ganddi sydd allan ar label Recordiau Côsh.
Mae label recordiau Sain wedi cyhoeddi bod eu holl recordiau o’r 1980au bellach wedi eu rhyddhau’n ddigidol ar y llwyfannau arferol.
I ddathlu deng mlynedd ers sefydlu’r grŵp, mae llyfr newydd yn cael ei gyhoeddi sy’n rhoi cip ar hanes a thaith y band poblogaidd, Bwncath.