Canllawiau Gwobrau’r Selar

Nod Gwobrau’r Selar yw gwobrwyo’r bandiau ac artistiaid cerddorol cyfoes sydd wedi bod yn weithgar yn y sin Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf. Ar ôl abrofi’n wreiddiol gyda phleidlais hollol agored, ers rhai blynyddoedd mae rhestrau hir ar gyfer pob categori, gyda’r nod o’i gwneud yn haws i bawb bleidleisio dros bob categori a sicrhau nad oes unrhyw bleidleisiau gwastraff.

Gwobrwyo cerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg ydy’r syniad, ac mae’n rhaid tynnu’r llinell yn rhywle felly i fod yn gymwys rhaid i gynnyrch gynnwys o leiaf 50% o gerddoriaeth Cymraeg e.e. rhaid i albwm 10 trac gynnwys o leiaf 5 yn yr iaith Gymraeg.

Mae’r categorïau sy’n gwobrwyo recordiau yn golygu cynnyrch sydd wedi eu rhyddhau/cyhoeddi yn 2023 yn unig. Trwy ryddhau gall olygu unrhyw CD, record finyl, casét neu gynnyrch i’w lawr lwytho’n electronig (am dâl neu am ddim) – ni ddylid ystyried caneuon sydd ar gael i’w gwrando arnyn nhw ar-lein yn unig (h.y. ffrydio). Byddwn yn llunio rhestr gynhwysfawr o’r cynnyrch cymwys yn fuan. Cysylltwch â ni os ydych yn ymwybodol o unrhyw gynnyrch ddylai fod ar y rhestr yma ond sydd ar goll ar hyn o bryd – yselar@live.co.uk.

Dyma ganllaw byr yn egluro pob categori:

Record Fer Orau

Mae’r categori yma ar gyfer cynnyrch byr, sy’n cynnwys o leiaf dwy gân ond sydd ddim yn albwm – gall rhain fod wedi eu rhyddhau ar unrhyw fformat, fel y nodir uchod. Bydd senglau sy’n un trac yn unig yn gymwys ar gyfer categori ‘Cân Orau’.

Bydd y rhestr hir ar gyfer y categori yn cynnwys pob record cyfoes rydym yn ymwybodol ohonynt a gyhoeddwyd yn 2023.

Cân orau

Yn y categori yma, gallwch bleidleisio dros unrhyw gân unigol sydd wedi’i rhyddhau ar unrhyw fformat am y tro cyntaf yn y flwyddyn ddiwethaf – boed ar record hir, record fer neu draciau unigol i’w lawr lwytho’n electronig. Gall hyn gynnwys caneuon sydd ar gael i’w lawr lwytho am ddim o wefannau fel Soundcloud neu Bandcamp.

Ni fydd caneuon sydd wedi’i ail-ryddhau’n gymwys yn y categori yma e.e. rhyddhawyd ‘Heno yn yr Anglesey’ gan Y Bandana yn wreiddiol fel sengl yn 2012, felly nid oedd yn gymwys i wobrau 2013, er ei bod ar albwm Y Bandana a ryddhawyd yn y flwyddyn honno. *

Fydd fersiwn cyfyr o gân gan artist arall ddim yn gymwys chwaith.

Gwaith Celf Gorau

Pleidleisiwch dros y clawr, neu’r gwaith celf sydd wedi dal y llygad fwyaf eleni. Gallwch ddewis gwaith celf unrhyw record finyl, CD, casét neu waith gweledol sy’n cyd-fynd â chynnyrch a ryddhawyd i’w lawr lwytho. *

Band newydd gorau

Pa grŵp neu artist newydd sydd wedi creu argraff arnoch chi dros y flwyddyn ddiwethaf. Does dim rhaid i’r grŵp fod wedi ffurfio neu ddechrau perfformio yn y flwyddyn ddiwethaf, ond dylen nhw fod wedi gwneud eu marc am y tro cyntaf yn 2023. *

Artist unigol gorau

Syml – pwy oedd artist unigol gorau Cymru yn 2023. *

Gwobr Seren y Sin

Rydym am wobrwyo arwyr tawel y sin – yr unigolion neu grwpiau sy’n gwneud gwaith clodwiw wrth hyrwyddo cerddoriaeth gyfoes Gymraeg mewn amryw ffyrdd. Gall fod yn drefnydd gigs rheolaidd, label annibynnol neu flogiwr cerddoriaeth er enghraifft, neu gerddor sy’n mynd o gwmpas eu gwaith yn dawel bach heb ormod o ffys. *

Band Gorau

Pa fand sydd wedi eich cyffroi neu gyfareddu chi fwyaf mewn gigs byw eleni. Dylech ystyried pa mor weithgar mae’r grŵp wedi bod o ran gigio’n rheolaidd. *

Record hir orau

Am yr eildro’n unig eleni mae’r categori yma’n agored i’r bleidlais gyhoeddus. Gall record hir olygu cryno albwm, albwm lawn neu albwm ddwbl.

Fideo Cerddoriaeth gorau

Categori newydd llynedd, a chategori sy’n agored i bleidlais gyhoeddus am y tro cyntaf eleni. Gallwch enwebu unrhyw fideo i gân sydd wedi ei gyhoeddi yn 2023 (h.y. y fideo wedi’i gyhoeddi yn 2023) – gall y fideo fod wedi ymddangos ar y teledu, neu ar-lein.

Gwobr 2020

Gwobr arbennig i gydnabod y flwyddyn anarferol rydym wedi gweld yn 2020. Rydym yn chwilio am bobl sydd wedi wynebu’r heriau yn ystod y flwyddyn, a llwyddo i wneud gwahaniaeth. Croeso i’r cyhoeddi gynnig enwebiadau, a bydd panel y Gwobrau yn dewis yr enillydd o’r enwebiadau hynny. *Panel Gwobrau’r Selar fydd yn dewis yr enillydd o’r enwau sy’n cael eu cynnig gan y cyhoeddi. 

Panel Gwobrau’r Selar

Panel Gwobrau’r Selar sy’n gyfrifol am lunio rhestrau hir pob categori. Mae’r panel yn cynnwys cyfranwyr a darllenwr Y Selar. Mae pob aelod o’r panel yn cael rhestr lawn o’r enwebiadau sydd wedi’u cynnig ac yn dewis y gorau ym mhob categori yn eu barn nhw yn breifat. Rydym yn sgorio’r dewisiadau hyn er mwyn llunio rhestrau hir.

…..

Pam llunio rhestrau hir?

Yn y gorffennol roeddem yn gadael y categoriau yma’n agored, ond roedd yn amlwg bod pobl yn fwy tebygol o bleidleisio dros y categoriau oedd â dewis, tra bod nifer yn pleidleisio dros bethau oedd ddim yn gymwys. Rydym am weld cymaint â phosib o bobl yn pleidleisio dros bob categori a pheidio gweld pleidleisiau’n cael eu gwastraffu, felly mae’r rhestrau hir yn hwyluso pethau.

* Bydd Panel Gwobrau’r Selar yn llunio rhestr hir ar gyfer y categoriau sydd wedi’i nodi, ond gallwch enwebu enwau i’w hystyried trwy ddefnyddioi’r ffurflen enwebu roeddem yn rhannu ar ein cyfryngau cymdeithasol nes 23 Rhagfyr 2023.

Polisi preifatrwydd

Er mwyn pleidleisio bydd angen creu cyfrif ar y wefan. Bydd angen i chi gofrestru gyda’ch enw a chyfeiriad ebost a byddwn yn cadw’r wybodaeth hyn er mwyn eich adnabod yn y dyfodol. Neu, gallwch gofrestru drwy ddefnyddio cyfrif Facebook – bydd angen i chi rhoi caniatâd i ap Facebook Y Selar weld gwybodaeth yn eich proffil Facebook, yn cynnwys eich enw llawn a rhif defnyddiwr Facebook. Fyddwn ni ond yn defnyddio’r wybodaeth hyn i atal pleidleisiau dwbl, ac ni fyddwn yn rhannu unrhyw wybodaeth amdanoch gydag unrhyw un arall. Dylech fod yn ymwybodol bod Facebook yn gosod cwcis, sef darnau bach o wybodaeth, ar eich cyfrifiadur wrth ddefnyddio’r safle, ond nid yw ap Y Selar yn gosod unrhyw gwcis ar wahân i’r rhain. Os hoffech chi gopi o’ch data personol, neu wneud cais i ni ei ddileu, anfonwch neges at gwefan@selar.cymru gyda’ch manylion.