Cynigiwch eich enwebiadau isod…
Yn ôl yr arfer cyfle i chi gynnig syniadau ynglŷn â phwy a beth ddylai gael ei hystyried ar gyfer rhestrau hir Gwobrau’r Selar eleni trwy gynnig enwebiadau ar gyfer y gwahanol gategorïau.
Bydd enwebiadau Gwobrau’r Selar yn cau ar 23 Rhagfyr. Wedi hynny bydd panel Gwobrau’r Selar yn dewis rhestrau hir o’r enwebiadau, gyda’r bleidlais gyhoeddus yn agor ar ddechrau Ionawr.
Croeso i chi lenwi ac anfon y ffurflen fwy nag unwaith os hoffech chi enwebu sawl enw mewn un categori.
Mae categorïau 2022 yn debyg iawn i rai 2022, 2021 a 2020. Rydym unwaith eto wedi penderfynu cyflwyno ‘Gwobr 2023’ (a gyflwynwyd yn wreiddiol fel ‘Gwobr 2020’ yn y flwyddyn honno) gan roi’r cyfle i rywun yn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg gael cydnabyddiaeth am y modd maent wedi ymateb mewn ffordd gadarnhaol i ddigwyddiadau/pynciau llosg/heriau penodol y flwyddyn. Eädyth oedd enillydd y wobr ar gyfer 2020 sef pan gyflwynwyd y wobr a y tro cyntaf, ac Izzy Rabey oedd yr enillydd llynedd.