Nod Gwobrau’r Selar yw gwobrwyo’r bandiau ac artistiaid cerddorol cyfoes sydd wedi bod yn weithgar yn y sin Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae panel o gyfranwyr rheolaidd cylchgrawn Y Selar wedi llunio rhestrau hir ar gyfer y categorïau ar sail enwebiadau gan y cyhoedd, a dyma dy gyfle i ddewis yr enillwyr.
Mae angen i ti fod yn aelod o Clwb Selar i bleidleisio. Os nad wyt ti eisoes yn aelod, gelli di ymaelodi isod fel Ffan yn rhad ac am ddim, neu ddewis un o’r opsiynnau eraill i fanteisio ar y pethau gwych sydd gan Clwb Selar i’w cynnig.
Y newyddion cyffrous eleni ydy bod noson Wobrau’r Selar yn dychwelyd! Bydd y gig yma, sydd wedi bod yn uchafbwynt yn y calendr cerddoriaeth Gymraeg, yn digwydd yn Arad Goch, Aberystwyth ar nos Sadwrn 1 Mawrth, gyda manylion llawn y lein-yp i ddilyn yn fuan.