Tocynnau Gwobrau’r Selar

Mae tocynnau Gwobrau’r Selar ar werth nawr!

Unwaith eto eleni rydym wedi gwneud pob ymdrech i gadw pris tocynnau’r digwyddiad mor isel â phosib. Mae tocynnau nos Wener yn £14, a nos Sadwrn yn £14… neu am y fargen orau prynwch docyn penwythnos am £25 i arbed cwpl o bunnoedd.

Dim ond 600 o docynnau sydd ar gyfer y nosweithiau unigol eleni, ac mae disgwyl i rhain i gyd werthu ymlaen llaw. Gan gofio bod 1100 yn dod i’r Gwobrau fel arfer, gwell peidio oedi!

Oedran mynediad i’r gig: 16+ (strict – byddwn yn gofyn am ID swyddogol ar y drws. Dim ID = dim mynediad)

Oedran mynediad i’r bar (alcohol): 18+

*Gweler isod ynglŷn â pha I.D. sy’n dderbyniol

Ble ga’i docyn?

E-docynnau yn unig bydd ar gyfer Gwobrau’r Selar y tro hwn – dewiswch nifer y tocynnau o’r blwch isod.

Gallwch dalu gyda cherdyn credyd, cerdyn debyd, neu Apple Pay. Dylech gael e-bost yn cadarnhau’ch archeb – edrychwch yn eich ffolder spam / sbwriel os nad ydy hwn yn cyrraedd yn fuan ar ôl archebu. Os na fydd golwg ohono, cysylltwch â ni trwy ebostio yselar@live.co.uk i wneud yn siŵr fod eich archeb wedi’i osod.

Byddwn yn anfon e-docyn i chi cyn y digwyddiad a bydd modd i chi argraffu rhain, neu eu sganio o’ch ffôn ar y penwythnos.

Nid oes modd i ni brynu tocynnau yn ôl na chynnig ad-daliad ar ôl i chi brynu.

Nos Sadwrn (Chwefror 15) – £14

Ddim ar werth ar hyn o bryd

 

Polisi Profi Oedran

Oherwydd canllawiau a rheolau trwyddedu lleoliad Gwobrau’r Selar, ac er mwyn diogelu’r gynulleidfa, mae’n ofynnol i ni sicrhau mai unigolion dros 16 yn unig sy’n dod i’r digwyddiad*, ac mai unigolion dros 18 oed yn unig sy’n cael mynediad i’r bar.

Yn hyn o beth, rydym yn gweithredu polisi Her 25 llym er mwyn profi oedran pobl sy’n dod i’r digwyddiad.  Os ydych yn ddigon ffodus i edrych dan 25 oed neu iau, dewch ag ID derbyniol gyda chi.

Os nad oes modd dangos ID dilys, ni fydd modd eich caniatáu ar safle’r digwyddiad.

Pa ID sy’n dderbyniol?

– Trwydded yrru llawn neu drwydded yrru dros dro cyfredol, gyda llun.
– Pasbort dilys (dim llungopi). Ni dderbynnir unrhyw basbort nad yw’n gyfredol.
– Cerdyn Cynllun Safonau Prawf Oedran (sy’n dangos hologram PASS).

 

*Yr unig eithriad i’r rheol hwn yw dan amgylchiadau arbennig, a disgresiwn y trefnydd, i ganiatau i berson dan 16 oed fod ar y safle gyda rhiant.