Rhifyn Selar Haf 2026
Darllenwch rifyn llawn, 24 tudalen, Y Selar, Haf 2026 trwy glicio’r clawr isod.
Mae label newydd Klust Music, sydd wedi’i lansio ar y cyd gyda Sain69, wedi croesawu’r artist pop arbrofol SHINOBii i’w stabl, gyda’i sengl newydd sbon, ‘DIDUFALLFROMHEAVEN?’, allan ers dydd Gwener diwethaf, 11 Medi.
Mae’r cerddor o Ddyffryn Conwy, Hedd Fôn, wedi rhyddhau ei sengl unigol ddiweddaraf. Daeth Hedd i amlygrwydd fel canwr a gitarydd y grŵp Yr Anghysur, ond yn gynharach eleni bu iddo ryddhau ei sengl unigol gyntaf, sef ‘Cwm Brwynog’.
Mae’r albwm ‘Kerrdd Dant’ gan MC Mabon wedi cael ei ryddhau’n ddigidol am y tro cyntaf. Rhyddhawyd y record yn wreiddiol ar ffurf CD yn 2004 ar label Slacyr, a dyma oedd chweched albwm prosiect unigol y cerddor Gruffydd Meredith a fu’n aelod o’r band Tystion yn flaenorol.
Mae’r artist amryddawn, Bethzienna,wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf yn y Gymraeg. ‘Môr o Gariad‘ ydy enw’r cynnig diweddaraf ganddi sy’n ddilyniant i’w senglau diweddar ar label Côsh.
Ar ôl dwy flynedd ers ei sengl ddiwethaf, mae’r artist o Ynys Môn, Tesni Hughes yn dychwelyd gyda sŵn hollol newydd. ‘Dim Mwy‘ ydy enw’r sengl newydd fydd allan ganddi ar label INOIS.
Fideo ar gyfer un o draciau GWEN ydy’r diweddaraf, a’r olaf o gyfres o fideos cerddoriaeth newydd i’w cyhoeddi ar blatfform S4C Miwsig dros yr haf eleni.
Mae’r canwr-gyfansoddwr, Al Lewis, wedi rhyddhau ei sengl newydd, ‘Will The Circle Be Unbroken‘.
Mae Gwen, sef prosiect unigol Gwenllian Anthony o’r band Adwaith, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, gan hefyd ddatgelu manylion ei halbwm cyntaf fydd allan yn fuan. ‘POP!’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ar label Libertino, a bydd ei halbwm llawn, ‘UMA’ yn dilyn ar 23 Hydref.
‘Y Gwir’ ydy enw’r sengl newydd gan Eädyth. Anthem bwerus y sy’n archwilio’r bwlch rhwng pwy ydym ni mewn gwirionedd, a’r fersiynau o’n hunain rydym yn creu ar gyfer y byd ydy’r sengl ddiweddaraf gan yr artist o Ferthyr.