Bedydd tân: sgwrs gyda TewTewTennau
Un o’r bandiau hynny sydd wedi creu cryn argraff yn ystod hanner cyntaf 2024 ydy TewTewTennau. Gruffudd ab Owain sydd wedi bod yn sgwrsio gyda nhw ar ran Y Selar.
Bydd sioe Nadolig flynyddol Al Lewis yng Nghaerdydd yn ehangu gorwelion eleni wrth i’r cerddor poblogaidd gyhoeddi dau leoliad newydd fis Rhagfyr.
Bydd lleoliad cerddoriaeth amlwg Tŷ Tawe yn cynnal llwyfan arbennig yng Ngŵyl Ffrinj Abertawe eleni.
Mae’r tocynnau cyntaf ar gyfer sioe Nadolig flynyddol Al Lewis wedi mynd ar werth, gyda chyfle cyntaf i brynu i’r rhai sydd wedi tanysgrifio ar gyfer e-gylchlythyr y canwr-gyfansoddwr poblogaidd.
A hithau wedi rhyddhau ei sengl ddwbl gyntaf ym mis Mehefin eleni, mae’r artist dwy-ieithog Llinos Emanuel wedi dychwelyd gyda thrac newydd sbon a ryddhawyd ar 4 Medi.
Mae’r band metal o Fangor, CELAVI, yn ôl gydag anthem cathartig newydd sbon sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 13 Medi.
Wrth baratoi i ryddhau eu halbwm newydd, mae’r ddeuawd roc o Lanrug, Alffa, wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘Dance Again’.
Mae’r DJ a’r cynhyrchydd, Vampire Disco, wedi rhyddhau ei sengl newydd, ‘Hapus’. Vampire Disco ydy prosiect diweddaraf y cerddor Alun Reynolds, sydd wedi arbrofi gydag amryw brosiectau cerddorol yn y gorffennol gan gynnwys Panda Fight a JJ Sneed – pwy all anghofio’r ‘air sax’ enwog eh?
Mae’r cyn enillwyr cystadleuaeth Cân i Gymru, Cordia, wedi ail-ffurfio ac mae eu sengl newydd allan ers 11 Medi.
Mae’r band o Gaerdydd, Angel Hotel, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf dan yr enw ‘I Can Find You if I Look Hard Enough’.