Dydyn ni ddim yn tracio defnyddwyr y wefan hon na gosod cwcis diangen.
Os ydych chi’n ymuno â Chlwb y Selar drwy greu cyfrif ar y wefan, byddwn yn cadw gwybodaeth amdanoch chi er mwyn eich adnabod, gweinyddu eich cyfrif, a chysylltu â chi. Ni fyddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda neb arall. Er mwyn i chi allu mewngofnodi a defnyddio eich cyfrif byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gallwch dileu’r rhain o’ch cyfrifiadur ar unrhyw adeg.
Os ydych chi’n pleidleisio yng Ngwobrau’r Selar, byddwn yn ogystal yn cofnodi’ch dewisiadau a gwybodaeth am eich pleidlais.
Os ydych chi’n cofrestru i’r wefan drwy ddefnyddio cyfrif Facebook bydd angen i chi rhoi caniatâd i ap Facebook Y Selar weld gwybodaeth yn eich proffil Facebook, yn cynnwys eich enw llawn a rhif defnyddiwr Facebook. Fyddwn ni ond yn defnyddio’r wybodaeth hyn i’ch adnabod chi, ac ni fyddwn yn rhannu unrhyw wybodaeth amdanoch gydag unrhyw un arall. Dylech fod yn ymwybodol bod Facebook yn gosod cwcis, sef darnau bach o wybodaeth, ar eich cyfrifiadur wrth ddefnyddio’r safle, ond nid yw ap Y Selar yn gosod unrhyw gwcis ar wahân i’r rhain.
Os hoffech chi gopi o’ch data personol, neu wneud cais i ni ei ddileu, neu i gau eich cyfrif yn llwyr, anfonwch neges at gwefan@selar.cymru gyda’ch manylion.