Fideo ‘Addo’ gan Adwaith ar Lŵp
Mae Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer sengl ddiweddaraf Adwaith. Rhyddhawyd ‘Addo’ ddiwedd mis Hydref ar label Recordiau Libertino, ac mae’n cynnwys gwestai arbennig iawn ar y gitâr sef James Dean Bradfield o Manic Street Preachers.