Sengl newydd Al Lewis

Mae Al Lewis wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf wrth iddo baratoi i ryddhau ei albwm newydd ym mis Ionawr. ‘Where Do I Go From Here’ ydy enw’r trac diweddaraf iddo ryddhau o’r albwm ‘Fifteen Years’ fydd allan ar 12 Ionawr 2024.

Cyhoeddi manylion Taith Al Lewis

Mae Al Lewis wedi cyhoeddi manylion ei daith o gigs fydd yn cael eu cynnal y mis Chwefror 2024. Mae Al eisoes wedi datgelu y bydd yn rhyddhau ei albwm diweddaraf, ‘Fifteen Years’ yn y flwyddyn newydd, a bydd yn perfformio mewn cyfres o gigs yn ystod mis Chwefror i hyrwyddo’r record newydd gan ymweld â Bangor, Aberteifi, Pwllheli a Wrecsam yng Nghymru, ynghyd â Lerpwl, Birmingham, Manceinion, Sheffield, Brighton a Llundain yn Lloegr.

Sengl Al Lewis – ‘Fatherly Guidance’

‘Fatherly Guidance’ yw’r bedwaredd sengl oddi ar ‘Fifteen Years’, albwm newydd Al Lewis fydd allan ar 12 Ionawr 2024, ac mae’n dilyn ‘The Farmhouse’, gafodd ei henwebu ar gyfer Cân Werin Saesneg y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2023, yn ogystal â’i senglau diweddar, ‘Feels Like Healing’ a ‘Never Be Forgotten’.