Al Lewis yn rhyddhau ‘Wanting More’

Mae Al Lewis wedi rhyddhau sengl Saesneg newydd ddydd Gwener diwethaf, 16 Hydref. ‘Wanting More’ ydy enw’r trac newydd gan y canwr-gyfansoddwr poblogaidd o Abergele, a dyma’r sengl gyntaf i ymddangos oddi-ar albwm newydd Al fydd yn cael ei ryddhau yn ystod 2021 gyda lwc.