‘O’r Lludw’ – rhyddhau ail albwm Alffa
Wedi cryn edrych ymlaen, mae’r ddeuawd roc o Lanrug, Alffa, wedi rhyddhau eu halbwm newydd. O’r Lludw / From Ashes ydy enw’r record hir newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh ac a fydd, yn ôl y label, yn tanio’r sin gerddoriaeth unwaith eto.