Ail albwm Gaff allan fis Ebrill

Mae Alun Gaffey wedi datgelu bydd ei albwm newydd yn cael ei ryddhau ym mis Ebrill eleni. Rhyddhawyd ei sengl ddiweddaraf, ‘Bore Da’, ddoe (6 Mawrth) a dyma’r sengl ddiweddaraf o gyfres o dair mae wedi rhyddhau o’r albwm newydd – rhyddhawyd ‘Yr 11eg Diwrnod’ ym mis Ionawr, ac yna ‘Rhosod Pinc’ ar 7 Chwefror.

Sengl newydd Alun Gaffey

Mae Alun Gaffey wedi rhyddhau ei gynnyrch cyntaf ers 2016 ar ffurf sengl newydd, ‘Yr 11eg Diwrnod’. Rhyddhawyd y sengl yn ddigidol gan Recordiau Côsh ddydd Gwener diwethaf, 10 Ionawr, ac mae’n damaid i aros pryd nes albwm newydd y cerddor dawnus sydd ar y gweill.