Alys Williams yn rhyddhau ‘Cyma Dy Wynt’
Mae Alys Williams wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ar label Recordiau Côsh. Dyma’r gân gyntaf i Alys, sydd hefyd yn aelod o’r band Blodau Papur, ryddhau dan ei henw ei hun ers 2021. ‘Cyma Dy Wynt’ ydy enw’r trac ac mae’n gyfansoddiad unigryw, ymlaciedig fydd yn aros yn eich pen am oes yn ôl Côsh.