Anelog yn rhyddhau’r Sengl Sain ddiweddara’

Cymharol dawel fu’r grŵp o Glwyd, Anelog, dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf ond roedd Y Selar yn falch gweld sengl newydd allan ganddynt ddydd Gwener diwethaf. ‘Papur Arian’ ydy’r sengl ddiweddaraf yn y gyfres Senglau Sain gan label Rasal gan ddilyn senglau gan Bitw (Rhagfyr), Pys Melyn (Ionawr) a Twinfield (Chwefror).