Albwm Angharad Jenkins a Huw Warren
Mae dau o gerddorion fwyaf blaenllaw Cymru, o feysydd gwerin a jazz, wedi dod ynghyd am y tro cyntaf, gyda’u halbwm o gerddoriaeth Nadoligaidd. ‘Calennig’ ydy enw’r record newydd, ac mae wrth gwrs yn cyfeirio at y traddodiad o ddathlu a chroesawu’r Flwyddyn Newydd.