Cantores a chyfansoddwraig ddawns-pop o Gaerdydd.

Ani Glass i ryddhau EP newydd

Bydd Ani Glass yn rhyddhau EP newydd o’r enw ‘Ynys Araul’ ddydd Gwener nesaf, 11 Medi. Mae’r record fer newydd yn dilyn ei halbwm hynod lwyddiannus, ‘Mirores’ a ryddhawyd ym mis Mawrth – cipiodd yr albwm deitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Cyhoeddi rhifyn Mawrth 2020 o’r Selar

Mae’r rhifyn newydd o gylchgrawn Y Selar allan rŵan! Roedd cyfle cyntaf i gael gafael ar gopi o’r rhifyn newydd ar ddiwedd penwythnos Gwobrau’r Selar nos Sadwrn, ond mae bellach wedi’i ddosbarthu i leoliadau amrywiol ledled Cymru, Mae’r rhifyn newydd yn cynnwys manylion holl enillwyr Gwobrau’r Selar, ynghyd â rhestr ‘10 Uchaf Albyms’ 2019 yn ôl pleidleiswyr y Gwobrau.