Cyhoeddi lein-yp Sesiwn Fawr Dolgellau
Mae trefnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau wedi cyhoeddi pa artistiaid sy’n perfformio yn yr ŵyl eleni. Daeth y cyhoeddiad ynglŷn â’r bandiau fydd yn perfformio yn yr ŵyl fis Gorffennaf ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru wythnos diwethaf.