Cyhoeddi manylion Gŵyl Ara Deg
Mae manylion yr ŵyl flynyddol a gynhelir ym Methesda, Ara Deg, wedi eu datgelu gan y trefnwyr. Neuadd Ogwen ym Methesda ydy canolbwynt y digwyddiad a gynhelir bob blwyddyn ar ddiwedd mis Awst, a sy’n cael ei chyd-drefnu gan y cerddor amlycaf o’r ardal, Gruff Rhys.