Albwm Awst ar y ffordd

Bydd Awst, sef prosiect cerddorol unigol Cynyr Hamer, yn rhyddhau ei albwm cyntaf ar 26 Awst. ‘Haul/Lloer’ fydd enw record hir unigol y cerddor profiadol, ac fe fydd ar gael i’w phrynu ar Bandcamp ar 18 Awst, wythnos cyn y dyddiad rhyddhau swyddogol.