Albwm Demos Bitw
Mae Bitw, sef prosiect unigol y cerddor amryddawn Gruff ab Arwel, wedi rhyddhau casgliad newydd o ganeuon hen. ‘Prehearse’ ydy enw’r albwm 17 trac sydd, yn ôl y cerddor, yn gasgliad o demos, syniadau a sgetsys o ganeuon a arweiniodd yn y pendraw at ei albwm diweddaraf, ‘Rehearse’.