Rhyddhau sengl gyntaf Ble?

Mae’r band ifanc o Gaerdydd, Ble?, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf ar label recordiau newydd sbon o’r enw Amhenodol. ‘Epiphany’ ydy enw  sengl gyntaf y band roc pres o dde Cymru ac maent yn rhyddhau’r gân union flwyddyn ers chwarae eu gig cyntaf yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd.

Artistiaid ifainc i’w gwylio yn 2023

Gruffudd ab Owain sy’n awgrymu pa artistiaid ifanc ddylai dilynwyr Y Selar gadw llygad arnyn nhw dros y flwyddyn i ddod… Roedd pryder ymysg nifer fod y pandemig a’i sgîl-effeithiau wedi dod â rhwystrau i gerddorion ifanc newydd yng Nghymru, ac y byddai’n her ennyn diddordeb a ffurfiant bandiau newydd wedi’r cyfnodau clo.