Blodau Papur yn dangos ochr dyner gyda’i sengl newydd
Mae’r ‘siwpyr grŵp’, Blodau Papur, wedi dychwelyd gyda sengl newydd sy’n dangos ochr dyner y band. Yn codi eu capiau i faledi mawr plentyndod yn y 1990au, mae ‘Fuo Chi?’ yn ddathliad o gariad a’r llinynnau tynn sydd rhwng pobl.