Cyfle cyntaf i weld: Fideo sesiwn byw ‘Tragwyddoldeb’ gan BOI

Wythnos cyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, mae’r grŵp newydd cyffrous BOI wedi rhyddhau sengl newydd sy’n dod â dŵr i’r dannedd wrth i ni edrych ymlaen at y record hir. ‘Tragwyddoldeb’ ydy enw’r trac diweddaraf i ollwng gan y grŵp sy’n cynnwys dau o gyn-aelodau Big Leaves, ynghyd â thri cherddor amlwg iawn arall.

Rhyddhau ail sengl BOI

Mae’r grŵp sy’n cynnwys rhai o gerddorion amlycaf Cymru wedi rhyddhaau eu hail sengl. Boi ydy’r band ‘siwpyr grŵp’ newydd sy’n cynnwys Meilyr Sion ac Osian Gwynedd, oedd yn gyd-aelodau o’r Big Leaves a Baganifs, ynghyd â Heledd Mair Watkins (HMS Morris), Ifan Emlyn (Candelas) a Dafydd Owen (Bob, Sibrydion).