Sengl ddwbl Breichiau Hir

Mae Breichiau Hir wedi rhyddhau sengl ddwbl newydd heddiw ar label Recordiau Libertino. ‘Mwynhau’ ac ‘Ofni Braidd’ ydy’r ddau drac newydd gan y grŵp roc ‘ôl-hardcore’ o Gaerdydd ac mae’n damaid arall i aros pryd nes rhyddhau albwm y grŵp fis Tachwedd.