Agor cystadleuaeth Brwydr y Bandiau

Mae cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B a BBC Radio Cymru eleni wedi agor. Mae ffurflen gofrestru ar-lein i unrhyw artistiaid neu fandiau sy’n awyddus i gystadlu, gyda chyfle i ennill £1000 a slot gwerthfawr ar lwyfan Maes B ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron fis Awst.