Rhyddhau sengl Burum

Bydd y grŵp jazz Burum yn cynnig blas pellach o’u halbwm newydd wrth ryddhau sengl ar 24 Mehefin. ‘Pibddawns Dowlais’  ydy enw’r sengl newydd sydd allan ar label Recordiau Bopa ac mae’n dilyn yn dynn ar sodlau eu sengl ddiwethaf, ‘Cariad Cywir’ a ryddhawyd ar ddiwedd mis Mai.