EP cynta’ Cadno allan ddiwedd y mis
Mae’r grŵp ifanc ardderchog o Gaerdydd, Cadno, wedi cyhoeddi manylion rhyddhau eu EP cyntaf. Bydd record gyntaf y grŵp, sy’n cynnwys pump o ganeuon allan ar 30 Mehefin gyda gig lansio arbennig yng Nghlwb Ifor Bach y noson honno.