Cyhoeddi rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Mae’r ‘Steddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu rhestr fer ar gyfer gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni, Dyma’r pedwerydd tro i’r wobr gael ei chyflwyno ac fe fydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yng Nghaffi Maes B ar faes y ‘Steddfod ddydd Gwener 11 Awst.