Rhestr fer Cân Orau

Un o wobrau mwyaf diddordol a chystadleuol Gwobrau’r Selar bob tro ydy honno am y gân orau. Dyma’r dair diwn ddaeth i frig y bleidlais gyhoeddus eleni: ‘Catalunya’ – Gwilym Rebel – Mellt Ddoe, Heddiw a ‘Fory – Candelas Bydd enillydd y categori’n cael ei gyhoeddi yng Ngwobrau’r Selar ar benwythnos 15-16 Chwefror.

Rhyddhau albwm Candelas yn ddigidol

Mae albwm diweddaraf Candelas, Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae?, bellach wedi’i ryddhau’n ddigidol. Rhyddhawyd yr albwm ar ffurf caled ar 22 Mehefin, a cyn hynny roedd modd rhag-archebu nifer cyfyngedig o becynnau arbennig o’r albwm oedd yn cynnwys bag tote, set o gardiau post a bathodyn, gyda gwaith celf trawiadol Angie Jay.