Lansio gigs rheolaidd Y Selar yn Aberystwyth
Ddiwedd Medi bydd Y Selar, yn lansio cyfres o gigs newydd fydd yn dod a’r artistiaid Cymraeg cyfoes gorau i Aberystwyth Yn dilyn llwyddiant noson wobrau’r cylchgrawn a werthodd allan ymlaen llaw yn y Neuadd Fawr fis Chwefror, mae’r Selar yn cydweithio â Chanolfan y Celfyddydau i hyrwyddo cyfres o gigs rheolaidd yn y ganolfan dros yr hydref.