Casi’n rhyddhau fersiwn newydd o gân Heather
Mae label Recordiau Sain wedi rhyddhau sengl newydd gan y gantores Casi. Trefniant arbennig o’r gân ‘Dyddiau a Fu’ ydy’r sengl newydd, sef trac a ymddangosodd gyntaf ar albwm Heather Jones, ‘Mae’r Olwyn yn Troi’, nôl yn 1974.