Cyhoeddi rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Mae’r ‘Steddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu rhestr fer ar gyfer gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni, Dyma’r pedwerydd tro i’r wobr gael ei chyflwyno ac fe fydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yng Nghaffi Maes B ar faes y ‘Steddfod ddydd Gwener 11 Awst.

Cyhoeddi dyddiad rhyddhau albwm CaStLeS

Mae’r grŵp seicadelig amgen o’r gogledd, CaStLeS wedi cyhoeddi dyddiad rhyddhau eu halbwn cyntaf. Wrth sgwrsio gyda’r grŵp ar ddechrau’r haf daeth yn amlwg i’r Selar eu bod eisoes wedi recordio albwm llawn, ac yn chwilio am label i ryddhau’r record.

Pump i’r Penwythnos 30 Medi 2016

Dyma bump o bethau cerddorol i helpu gwneud eich penwythnos yn un perffaith. Gig: Gig olaf Y Bandana (yn y De) – Clwb Ifor Bach, Caerdydd (Sadwrn 1 Hydref) Mae ‘na dipyn o gigs bach da y penwythnos yma gan gynnwys Mellt ac Ysgol Sul yn Neuadd Fictoria, Llanbedr Pont Steffan nos Wener, a hefyd Ysgol Sul, Casset a Mosco yn y Cŵps, Aberystwyth…sydd hefyd nos Wener – noson brysur i Ysgol Sul glei!