Ciwb yn talu teyrnged i Dyfrig Topper
Mae’r band cyfyrs Cymraeg, Ciwb, yn eu holau gyda fersiwn newydd sbon o ‘Cwsg Gerdded’ gan Topper. Dyma’r drydedd sengl iddyn nhw ei rhyddhau ers yr albwm cyntaf yn 2021 – mae’n dilyn ‘America’ gydag Elan Rhys (yn wreiddiol gan Rhiannon Tomos), a’u fersiwn o ‘Laura’ gan Endaf Emlyn gydag Iwan Huws yn canu’r prif lais.