Cotton Wolf yn ail-gymysgu ‘Madryn’
Mae’r ddeuawd electronig, Cotton Wolf, wedi ail-gymysgu sengl ddiweddaraf Georgia Ruth, ‘Madryn’. Rhyddhawyd ‘Madryn’ ddydd Gwener diwethaf, 7 Chwefror, a dyma’r sengl gyntaf i weld golau dydd o’i halbwm newydd, Mai, sydd allan ar 20 Mawrth.