Pennod newydd Curadur – Ifan Davies
Ifan Davies o’r band Sŵnami ydy’r diweddaraf i fod yn ganolbwynt i raglen gerddoriaeth S4C Curadur. Darlledwyd y bennod ddiweddaraf o’r gyfres ar drothwy’r Nadolig, ond bellach mae modd gwylio rhai o’r uchafbwyntiau ar sianel YouTube Lŵp, yn ogystal â gwylio ar alw ar Clic, S4C am gyfnod byr.