Ail albwm Cwtsh ar CD

Mae ail albwm y band Cwtsh bellach ar gael ar ffurf CD. Rhyddhawyd ‘Llinell Amser’ yn wreiddiol ym mis Mawrth eleni, ond yn y lle cyntaf, dim ond ar y llwyfannau digidol oedd hwn ar gael.

Rhyddhau albwm newydd Cwtsh

Mae’r band Cwtsh wedi rhyddhau eu hail albwm ers dydd Gwener, 8 Mawrth. ‘Llinell Amser’ ydy enw’r record hir newydd gan y band ac mae’n glanio tair blynedd ar ôl eu halbwm cyntaf llwyddiannus, ‘Gyda’n Gilydd’, a ryddhawyd yn 2021.