Daf Jones

Dyddiad rhyddhau albwm Daf Jones

Mae Daf Jones wedi cadarnhau i’r Selar bydd yn rhyddhau ei albwm cyntaf ar 8 Ionawr. Mae’r cerddor o Fôn wedi rhyddhau dwy sengl fel tameidiau i aros pryd dros y misoedd diwethaf sef ‘Diffodd y Swits’ ym mis Medi, ac yna ‘Sbardun’ ar 20 Tachwedd.