Dafydd Hedd yn rhyddhau ‘Atgyfodi’

Mae Dafydd Hedd wedi rhyddhau ei sengl newydd, ‘Atgyfodi’, ers dydd Gwener diwethaf, 14 Ionawr. Cyhoeddodd y cerddor ifanc o Fethesda ei fod wedi arwyddo gyda label Bryn Rock ar ddechrau’r flwyddyn, a’r sengl newydd ydy ei gynnyrch cyntaf ar y label hwnnw sy’n cael ei redeg gan y cerddor Jacob Elwy.