Rhyddhau albwm cyntaf Dafydd Owain – Uwch Dros y Pysgod
Mae Dafydd Owain wedi rhyddhau ei albwm unigol cyntaf ers 17 Mai. Uwch Dros y Pysgod ydy enw record hir gyntaf y cerddor sy’n gyfarwydd cyn hyn am ei waith gyda bandiau fel Eitha Tal Ffranco, Jen Jeniro, Omaloma a Palenco.