Cyhoeddi lein-yp y Ddawns Rhyng-gol
Mae UMCA wedi cyhoeddi lein-yp y Ddawns Ryng-gol eleni. Cynhelir y ddawns yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ym mis Tachwedd bob blwyddyn, ac mae’n un o gigs Cymraeg mwyaf tymor yr hydref, gan ddenu hyd at 1000 o fyfyrwyr Cymraeg o holl brifysgolion Cymru a thu hwnt.