Cyfle cyntaf i weld…fideo ‘Ci’ gan Derw
Un o’r bandiau hynny sydd wedi creu argraff fawr yn ystod cyfnod Covid ydy Derw. Er gwaethaf yr heriau, maen nhw wedi llwyddo i sefydlu eu hunain trwy wneud pethau ychydig bach yn wahanol.
Un o’r bandiau hynny sydd wedi creu argraff fawr yn ystod cyfnod Covid ydy Derw. Er gwaethaf yr heriau, maen nhw wedi llwyddo i sefydlu eu hunain trwy wneud pethau ychydig bach yn wahanol.
Mae’r sengl ddiweddaraf y grŵp pop siambr, Derw, yn mynd i’r afael a’r thema o iselder – pwnc sydd wedi effeithio ar bawb rywdro, ond yn enwedig felly dros y cyfnod diweddar.
Fe fydd y grŵp pop siambr gwych, Derw, yn rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ddydd Gwener yma, 24 Medi, ond rydyn ni’n falch iawn o’r cyfle i rannu’r trac i’w ffrydio ar wefan Y Selar, cyn unrhyw le arall.
Rydyn ni wedi teimlo lot o gariad tuag at y grŵp pop siambr o Gaerdydd, Derw, yma yn Selar HQ yn ddiweddar.
“…oeddan ni isio i bobl gael syniad o sut fysa ni’n edrych a swnio’n fyw, a gweld bod ni actually yn fand go iawn” Geiriau Dafydd Dabson, gitarydd a chyfansoddwr caneuon y grŵp Derw wrth drafod pam eu bod nhw wedi penderfynu ffilmio fideos ar gyfer rhai o draciau eu EP cyntaf, Yr Unig Rai Sy’n Cofio, yn stiwdio Acapela yn yr hydref.
Bydd EP cyntaf y grŵp pop siambr newydd o Gaerdydd, Derw, allan ddydd Gwener yma, 19 Chwefror. ‘Yr Unig Rai Sy’n Cofio’ ydy enw’r record fer sy’n cael ei rhyddhau ar label CEG Records.
Mae’r grŵp pop siambr newydd, Derw, wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y gân ‘Silver’. Ymddangosodd Derw gyda’u sengl gyntaf, ‘Dau Gam’, nôl ym mis Ebrill. ‘ Silver’ ydy’r trac olaf o’u EP ‘Yr Unig Rhai Sy’n Cofio’ sydd ar gael i’w ffrydio a lawr lwytho’n ddigidol.
Gellir dadlau fod y cyfnod clo wedi bod yn un o ddau begwn i artistiaid cerddorol Cymraeg. Ar y naill law, mae’r diwydiant cerddoriaeth fyw wedi dod i stop, ac o ganlyniad wrth gwrs mae’r bandiau hynny sydd fel arfer yn ennill eu bara menyn ar lwyfannau gwyliau’r haf a gigs eraill wedi bod yn ddigon tawel.
Mae’r grŵp pop siambr o Gaerdydd, Derw, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 28 Awst.