Pump i’r Penwythnos – 3 Mawrth 2017
Pwy sydd angen ffics cerddorol ar gyfer eu penwythnos? Wel, yn ffodus iawn mae’r Selar yma at eich gwasanaeth… Gig:– Candelas, Band Pres Llareggub, Yr Eira, Chwalfa – Gig Steddfod Rhyng-gol @ Pontio, Bangor – Sadwrn 4 Mawrth Fel arfer y Ddawns Rhyng-golegol flynyddol yn Aberystwyth ym mis Tachwedd sy’n llwyfannu llwyth o fandiau gwych i gael eu hanwybyddu gan stiwdants meddwl (jôôôôc), ond mae ‘na stoncar o lein-yp ar gyfer y gig sy’n dilyn y Steddfod Rhyng-gol nos Sadwrn.