‘Rhedeg’ gan Eädyth

Bydd Eädyth,yn rhyddhau ei sengl newydd ddydd Gwener yma, 7 Chwefror. ‘Rhedeg’ ydy enw’r trac newydd sy’n ymddangos ar label Udishido, ac yn ôl y label mae’r gân yn ein cyflwyno i lais pwerus a soulful Eädyth ynghyd â thechnegau cynhyrchu arloesol sy’n gweddu’n berffaith i’w geiriau grymusol.