Parisa Fouladi yn achub ar gyfle’r cyfnod clo
Gellir dadlau fod y cyfnod clo wedi bod yn un o ddau begwn i artistiaid cerddorol Cymraeg. Ar y naill law, mae’r diwydiant cerddoriaeth fyw wedi dod i stop, ac o ganlyniad wrth gwrs mae’r bandiau hynny sydd fel arfer yn ennill eu bara menyn ar lwyfannau gwyliau’r haf a gigs eraill wedi bod yn ddigon tawel.