EP newydd Ffion Evans

Bydd y gantores ifanc o Geredigion, Ffion Evans, yn rhyddhau ei EP cyntaf ddechrau mis Rhagfyr. ‘Ar Ben Fy Hun’ ydy enw’r casgliad byr sy’n cael ei ryddhau’n swyddogol ar 6 Rhagfyr gan label Recordiau Bwca, ac yn ôl y label, mae’r EP yn llawn o ganeuon personol.