Ffrancon yn rhyddhau EWROPA 2034

Mae’r cerddor electroneg arbrofol, Ffrancon, wedi rhyddhau EP newydd ar ei safle Bandcamp. Un o brosiectau’r cerddor amryddawn Geraint Ffrancon, sydd hefyd yn gyfrifol am gerddoriaeth Machynlleth Sound Machine, ydy Ffrancon ac fe ryddhaodd gynnyrch diweddaraf y prosiect ar ffurf yr albwm 27 trac, ‘Ewropa’, ym Mai 2019.