Sengl newydd Georgia Ruth yn gollwng
Mae sengl newydd gan Georgia Ruth wedi gollwng ar label Recordiau Bubblewrap, wrth iddi hefyd rannu newyddion am EP fydd allan ar ddiwedd y mis. ‘Would It Kill You To Ask?’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ers dydd Gwener 7 Mawrth, ac sy’n rhagflas o’r EP fydd yn dilyn ganddi ar 28 Mawrth.